KBlocks yw'r gêm blociau cwympo glasurol. Y syniad yw pentyrru'r blociau cwympo i greu llinellau llorweddol heb unrhyw fylchau. Pan fydd llinell wedi'i chwblhau, caiff ei thynnu, ac mae mwy o le ar gael yn yr ardal chwarae. Pan nad oes digon o le i flociau ddisgyn, mae'r gêm drosodd.